|
|
|

|
| Lleoliad: |
Llangernyw |
| Gweithgaredd: |
Cerdded |
| Disgrifiad: |
|
Ewch o’r maes parcio a cherddwch tuag at y llwybr gyferbyn â Thafarn y Bont. Dilynwch y llwybr hwn, ar hyd ymyl y nant, gan fynd heibio i’r capel ar eich llaw dde. Dilynwch y llwybr i’r dde o’r pontydd, drwy’r gatiau ac i’r cae. Cerddwch ar hyd ymyl y nant sy’n llifo i’ch llaw chwith nes cyrraedd gât arall. Ar ôl cerdded drwy’r gât hon, croeswch y bont ac ewch dros y gamfa a cherddwch dros y bont fwy. Cadwch lygad ar drafnidiaeth o’r ddau gyfeiriad. Unwaith y byddwch wedi croesi’r bont, trowch yn syth i’r chwith ac unwaith eto croeswch gamfa er mwyn cerdded ar hyd ymyl yr afon. Mae darn bach syth yma cyn i chi gyrraedd gât arall, ac ar ôl hynny mae darn syth arall, sy’n dal i fynd ar ymyl yr afon nes cyrraedd y gamfa nesaf. Ar ôl cerdded ar hyd ymyl yr afon drwy’r cae hwn byddwch yn cyrraedd pont arall fydd yn mynd a chi yn agos at fferm. Ewch drwy gât y fferm, gan aros ar y llwybr troed cyhoeddus sy’n eich arwain at y briffordd sy’n mynd drwy Langernyw. Trowch i’r chwith yma wrth arwydd Llangernyw ac ewch ar hyd y palmant yn ôl i’r pentref. Croeswch y ffordd wrth yr arwydd 30 mya i ymuno â’r palmant ac ewch ymlaen i mewn i’r pentref. Mae darn bach o ffordd lle nad oes palmant, felly cadwch lygad am drafnidiaeth. Cerddwch heibio’r Old Stag a throwch i’r chwith wrth arwydd yr ysgol cyn croesi pont a mynd ar hyd y llwybr fydd yn mynd â chi yn ôl at fan cychwyn y daith gerdded.

|
| Sut mae cyrraedd y man cychwyn: |
O Lanrwst:
Trowch oddi ar yr A470 sy’n mynd drwy Lanrwst ac ewch ar hyd yr A548 tua’r gogledd ddwyrain am tua 7 milltir. Byddwch yn gweld yr arwyddion fydd yn dangos y ffordd i’r pentref.
O Abergele:
Ymunwch â’r A548 ac ewch tua’r de drwy Lanfair Talhairan ac ewch ymlaen ar hyd yr A548 nes cyrraedd Llangernyw mewn tua 10 milltir.
O’r A55 (Llandudno): Trowch i ffwrdd o’r A55 ar Gyffordd 19 ac ewch i gyfeiriad Glan Conwy. Trowch i ffwrdd o’r gylchfan fach ar yr 2il droad ac ymunwch â’r B5381 am tua 2.7 milltir. Trowch i’r dde ar y B5113 a dilynwch y ffordd hon am tua 3 milltir. Trowch i’r chwith tuag at yr A548 ac ewch ar ei hyd am tua 2.7 milltir cyn troi i’r dde ar yr A548 am 1 milltir.
|
| I lawrlwytho copi o’r wybodaeth uchod ar gyfer argraffydd, cliciwch ar y ddolen gyswllt ‘lawrlwytho PDF’ isod. |
|
Llwybr Rhif 4 5x30 Conwy |
| Math o Ddogfen: Ffeil Acrobat/PDF |
| Maint y Ddogfen: 149k |
| Nodyn: Mae’r ddogfen hon ar ffurf PDF ac mae angen meddalwedd megis Adobe Acrobat Reader i’w gweld. Mae’r rhan fwyaf o gyfrifiaduron eisoes â’r meddalwedd hwn. Os nad ydych yn sicr a oes gennych chi’r meddalwedd hwn ai peidio, agorwch y ffeil uchod. Os medrwch ddarllen y ddogfen, yna mae’r meddalwedd gennych eisoes. Os nad ydych yn medru agor y ddogfen, yna efallai nad yw’r meddalwedd ar eich cyfrifiadur. Os felly, cliciwch ar y ddolen gyswllt isod i fynd i wefan Adobe lle gallwch lawrlwytho copi o Acrobat Reader am ddim. Cael Adobe Acrobat Reader. |
|