"" North Wales Outdoor Challenge ""
Cartref
Beth yw 5x30?
Dod o Hyd I Lwybr
Ynys Mon
Gwynedd
Conwy
Bodlondeb
Promenâd Bae Colwyn
Parc Eirias
Llangernyw
Llwybr y Twyni, Bae Cinmel
Sir Ddinbych
Sir Y Fflint
Wrecsam
Linciau

 

 

Llwybrau yng Nghonwy

Llwybr y Twyni, Bae Cinmel

Lleoliad: Llwybr y Twyni, Bae Cinmel
Gweithgaredd:

Cerdded

Disgrifiad:  

Dyma gylchdaith o oddeutu 1.4 milltir ar ei hyd. Gan gychwyn ger giât y twyni tua’r dwyrain ar hyd y llwybr troed gan ddilyn y marcwyr gwyrdd ‘Her Awyr Agored’.  Ar ôl tua 5 munud, bydd y llwybr yn eich arwain tuag at y promenâd lle byddwch yn mynd i gyfeiriad Y Rhyl cyn troi’n ôl ger y man sydd wedi ei farcio.  Yno, byddwch yn cerdded ar hyd y promenâd tua’r gorllewin am tua 15 munud cyn mynd yn ôl i mewn i’r twyni er mwyn dilyn y llwybr troed yn ôl i’r maes parcio.

Llwybr y Twyni

Sut mae cyrraedd y man cychwyn:

Tua’r dwyrain: Wrth deithio tua’r Dwyrain ar hyd yr A55, trowch i ffwrdd yng nghyffordd 23a am Dywyn.  Dilynwch ffordd yr arfordir i groesfan a reolir gan oleuadau traffig.  Trowch i’r chwith yma, dilynwch y ffordd heibio Asda ar y chwith yn syth ymlaen i faes parcio’r Twyni.  Fel arall, teithiwch tua’r dwyrain ar hyd yr A55 a throi i ffwrdd yng nghyffordd 24, dilyn y troad cyntaf i’r chwith ac ar hyd Ffordd Abergele nes dowch at gylchfan.  Trowch i’r chwith yma a dilynwch St. Asaph Avenue nes cyrhaeddwch y groesfan a reolir gan oleuadau traffig. Cariwch ymlaen yn syth drosodd, heibio Asda i faes parcio’r Twyni.

Tua’r Gorllewin: Os yn teithio tua’r gorllewin ar yr A55, trowch i ffwrdd yn y troad am Ysbyty Glan Clwyd.  Croeswch dros yr A55 ac yn y gylchfan trowch i ffwrdd ar y troad cyntaf i’r chwith.  Teithiwch am 300 llath a chymryd yr 2il droad ar y dde.  Teithiwch ar hyd y ffordd hon at y gylchfan nesaf, ewch syth ymlaen.  Dilynwch St Asaph Avenue am tua 1.7 milltir nes cyrhaeddwch groesffordd a reolir gan oleuadau traffig.  Ewch yn syth drosodd, heibio Asda i faes parcio Twyni Bae Cinmel.

 

I lawrlwytho copi o’r wybodaeth uchod ar gyfer argraffydd, cliciwch ar y ddolen gyswllt ‘lawrlwytho PDF’ isod.
Iawrlwytho PDF
Llwybr Rhif 5 5x30 Conwy
Math o Ddogfen: Ffeil Acrobat/PDF
Maint y Ddogfen: 149k
Nodyn: Mae’r ddogfen hon ar ffurf PDF ac mae angen meddalwedd megis Adobe Acrobat Reader i’w gweld.  Mae’r rhan fwyaf o gyfrifiaduron eisoes â’r meddalwedd hwn.  Os nad ydych yn sicr a oes gennych chi’r meddalwedd hwn ai peidio, agorwch y ffeil uchod.  Os medrwch ddarllen y ddogfen, yna mae’r meddalwedd gennych eisoes. Os nad ydych yn medru agor y ddogfen, yna efallai nad yw’r meddalwedd ar eich cyfrifiadur. Os felly, cliciwch ar y ddolen gyswllt isod i fynd i wefan Adobe lle gallwch lawrlwytho copi o Acrobat Reader am ddim. Cael Adobe Acrobat Reader.

 

yngor Sir Ynys Mon Cyngor Gwynedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Cyngor Chwaraeon Cymru Her Iechyd Cymru Llywodraeth Cynulliad Cymru Flintshire County Council Denbighshire County Council Wrexham County Borough Council
Amdanom Ni | Polisi Preifatrwydd | © HBS Ltd 2006