CARTREF
BETH YW 5X30?
DOD O HYD I LWYBR
Ynys Mon
Gwynedd
Conwy
Sir Ddinbych
Sir Y Fflint
Wrecsam
LINCIAU

 

 

LLWYBRAU YNG NGHONWY

3. Parc Eirias, Bae Colwyn

Gweithgaredd: Cyfeiriannu
Disgrifiad:

Mae’r cwrs parhaol efo 50 acer o dir parc prydferth o’i amgylch ym Mharc Eirias.

Mae mapiau ar gael am ffi fechan oddi wrth y brif dderbynfa yng Nghanolfan Hamdden Colwyn. Does dim angen prynu map newydd bob tro. Byddwch angen papur a phensil i gofnodi’r llythrennau ar y marcwyr cocha  gwyn. Gallwch amrywio pob llwybr o ddechreuwyr i’r cyfeirianwyr mwy profiadol.

Sut mae cyrraedd y man cychwyn:

Cyffordd 22 ar gyfer Hen Golwyn A55: Tua’r Dwyrain, trowch i’r dde ar waelod y slipffordd.

Cyffordd 22 ar gyfer Hen Golwyn A55: Tua’r Gorllewin trowch i’r chwith ar waelod y slipffordd.

Cymerwch y 4ydd ffordd allan o’r gylchfan, tua Bae Colwyn.

Dilynwch y ffordd nes eich bod yn mynd heibio i gae ar y dde.

Bydd cylchfan fach o’ch blaen (mae parc sgrialu ar y dde).

Trowch i’r dde, trwy gatiau haearn agored.

Dilynwch y dreif, heibio’r maes astro turf.

Dylai’r Ganolfan Hamdden fod yn union o’ch blaen wrth i chi ddod i lawr y dreif.
     
Mae’r dderbynfa ar ochr bellaf yr adeilad

Nodwch, ni fydd y cwrs cyfeiriannu ar gael i’r cyhoedd ar rai adegau oherwydd digwyddiadau a sesiynau sydd wedi’u trefnu. Cysylltwch â Chanolfan Hamdden Bae Colwyn cyn dod draw, i ofyn a yw’r cwrs ar gael.

Dylai unrhyw sefydliad sy’n dymuno dod â gr?p ffonio Rhodri Morgan yn Adran Hamdden a Datblygiad Cymunedol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar 01492 575556 i gadw lle.

I lawrlwytho copi o’r wybodaeth uchod ar gyfer argraffydd, cliciwch ar y ddolen gyswllt ‘lawrlwytho PDF’ isod.

 

 

Dewiswch lwybr 30 munud o’r dolenni cyswllt isod.

Route 1 - Bodlondeb, Conwy  
Route 2 - Promenâd a Llwybr Beicio Bae Colwyn  
Route 3 - Parc Eirias, Bae Colwyn  
Route 4 - Llangernyw  
Route 5 - Rhodfa Caer, Bae Cinmel  

 

Amdanom Ni | Polisi Preifatrwydd | © HBS Ltd 2006