| Disgrifiad: |
Dyma gylchdaith o oddeutu 1.4 milltir ar ei hyd. Gan gychwyn ger giât y twyni tua’r dwyrain ar hyd y llwybr troed gan ddilyn y marcwyr gwyrdd ‘Her Awyr Agored’. Ar ôl tua 5 munud, bydd y llwybr yn eich arwain tuag at y promenâd lle byddwch yn mynd i gyfeiriad Y Rhyl cyn troi’n ôl ger y man sydd wedi ei farcio. Yno, byddwch yn cerdded ar hyd y promenâd tua’r gorllewin am tua 15 munud cyn mynd yn ôl i mewn i’r twyni er mwyn dilyn y llwybr troed yn ôl i’r maes parcio.
|
| Sut mae cyrraedd y man cychwyn: |
Tua’r dwyrain: Wrth deithio tua’r Dwyrain ar hyd yr A55, trowch i ffwrdd yng nghyffordd 23a am Dywyn. Dilynwch ffordd yr arfordir i groesfan a reolir gan oleuadau traffig. Trowch i’r chwith yma, dilynwch y ffordd heibio Asda ar y chwith yn syth ymlaen i faes parcio’r Twyni. Fel arall, teithiwch tua’r dwyrain ar hyd yr A55 a throi i ffwrdd yng nghyffordd 24, dilyn y troad cyntaf i’r chwith ac ar hyd Ffordd Abergele nes dowch at gylchfan. Trowch i’r chwith yma a dilynwch St. Asaph Avenue nes cyrhaeddwch y groesfan a reolir gan oleuadau traffig. Cariwch ymlaen yn syth drosodd, heibio Asda i faes parcio’r Twyni.
Tua’r Gorllewin: Os yn teithio tua’r gorllewin ar yr A55, trowch i ffwrdd yn y troad am Ysbyty Glan Clwyd. Croeswch dros yr A55 ac yn y gylchfan trowch i ffwrdd ar y troad cyntaf i’r chwith. Teithiwch am 300 llath a chymryd yr 2il droad ar y dde. Teithiwch ar hyd y ffordd hon at y gylchfan nesaf, ewch syth ymlaen. Dilynwch St Asaph Avenue am tua 1.7 milltir nes cyrhaeddwch groesffordd a reolir gan oleuadau traffig. Ewch yn syth drosodd, heibio Asda i faes parcio Twyni Bae Cinmel. |