"" North Wales Outdoor Challenge ""
Cartref
Her Beicio
Active Commuting
Find Out More
Cysylltwch a Ni

 

 

Taith Feicio Gogledd Cymru

EICH SIALENS CHI

Eleni mae British Heart Foundation Cymru (BHF) yn lansio taith feicio newydd sbon yng Ngogledd Cymru, ac hoffem eich gwahodd i ymuno â ni am ddiwrnod i’w gofio!

Mae Taith Feicio Gogledd Cymru a gynhelir ar 8 Mehefin yn weithgaredd gwych i bawb o bob oedran a gallu.  Cewch fwynhau golygfeydd godidog o arfordir a chefn gwlad yr ardal, gyda’r rhan helaeth o’r cwrs yn dilyn llwybrau beicio, i ffwrdd o’r traffig.

Mae’r cwrs 15 milltir yn dechrau am 09.00yb o Arena Rhyl ger y môr.  Byddwch yn dilyn yr arfordir i Brestatyn lle mae’r cwrs yn ymuno â llwybr beicio Dyserth Way ac yn arwain at Rhuddlan, cyn dychwelyd at lwybr yr arfordir a pharhâu at y llinell orffen.

Mae Taith Feicio Gogledd Cymru yn gyfle gwych i ddefnyddio’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, ond rhaid ystyried y bydd angen croesi heolydd ar adegau.  Er mwyn eich diogelwch a mwynhâd bydd rhaid dod oddi ar eich beic ar gyfer y mannau hyn.

Ar ôl gorffen cewch gyfle i ymlacio gyda ffrindiau a theulu a dathlu eich llwyddiant.

Nid râs yw’r digwyddiad hwn ond gofynnwn i bawb sy’n cymryd rhan i godi arian nawdd am eu hymdrechion – mae’r BHF yn dibynnu ar roddion hael fel hyn i achub bywydau bregus bob dydd.

Noddir Taith Feicio Gogledd Cymru gan Gyngor Chwaraeon Cymru ac fe’i gefnogir gan Her Awyr Agored Gogledd Cymru.

 

SUT I GOFRESTRU

I gofrestru llenwch y ffurflen amagaedig a’i dychwleyd i’r BHF neu gallwch gofrestru ar y we ar wefan y digwyddiad www.bhf.org.uk/northwalesbikeride

Beth am ffurfio tim o’r gwaith neu griw o ffrindiau? Byddwch yn cadw eich calon chi yn iach ac helpu eraill 

Os hoffech fwy o ffurflenni ar gyfer ffrindiau neu theulu yna gallwch gysylltu â ni ar 0800 783 6970 neu drwy ebost, walesevents@bhf.org.uk

Unwaith byddwch wedi cofrestru byddwch yn derbyn mwy o fanylion am y daith, tips ar godi arian ynghyd â’ch rhif arbennig i wisgo ar y dydd.

 

 

 

Isle of Anglesey County Council Wrexham County Borough Council Denbighshire County Council Flintshire County Council Conwy County Borough Council Welsh Assembly Government Gwynedd County Council Health Challenge Wales Sports Council for Wales
About Us | Privacy Policy | © HBS Ltd 2006