TAITH FEICIO GOGLEDD CYMRU - 8 MEHEFIN 2008 |
|
EICH SIALENS CHI
Eleni mae British Heart Foundation Cymru (BHF) yn lansio taith feicio newydd sbon yng Ngogledd Cymru, ac hoffem eich gwahodd i ymuno â ni am ddiwrnod i’w gofio!
Mae Taith Feicio Gogledd Cymru a gynhelir ar 8 Mehefin yn weithgaredd gwych i bawb o bob oedran a gallu. Cewch fwynhau golygfeydd godidog o arfordir a chefn gwlad yr ardal, gyda’r rhan helaeth o’r cwrs yn dilyn llwybrau beicio, i ffwrdd o’r traffig.
Mae’r cwrs 15 milltir yn dechrau am 09.00yb o Arena Rhyl ger y môr. Byddwch yn dilyn yr arfordir i Brestatyn lle mae’r cwrs yn ymuno â llwybr beicio Dyserth Way ac yn arwain at Rhuddlan, cyn dychwelyd at lwybr yr arfordir a pharhâu at y llinell orffen.
Mae Taith Feicio Gogledd Cymru yn gyfle gwych i ddefnyddio’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, ond rhaid ystyried y bydd angen croesi heolydd ar adegau. Er mwyn eich diogelwch a mwynhâd bydd rhaid dod oddi ar eich beic ar gyfer y mannau hyn.
Ar ôl gorffen cewch gyfle i ymlacio gyda ffrindiau a theulu a dathlu eich llwyddiant.
Nid râs yw’r digwyddiad hwn ond gofynnwn i bawb sy’n cymryd rhan i godi arian nawdd am eu hymdrechion – mae’r BHF yn dibynnu ar roddion hael fel hyn i achub bywydau bregus bob dydd.
Noddir Taith Feicio Gogledd Cymru gan Gyngor Chwaraeon Cymru ac fe’i gefnogir gan Her Awyr Agored Gogledd Cymru.
SUT I GOFRESTRU
I gofrestru llenwch y ffurflen amagaedig a’i dychwleyd i’r BHF neu gallwch gofrestru ar y we ar wefan y digwyddiad www.bhf.org.uk/northwalesbikeride.
Beth am ffurfio tim o’r gwaith neu griw o ffrindiau? Byddwch yn cadw eich calon chi yn iach ac helpu eraill
Os hoffech fwy o ffurflenni ar gyfer ffrindiau neu theulu yna gallwch gysylltu â ni ar 0800 783 6970 neu drwy ebost, walesevents@bhf.org.uk
Unwaith byddwch wedi cofrestru byddwch yn derbyn mwy o fanylion am y daith, tips ar godi arian ynghyd â’ch rhif arbennig i wisgo ar y dydd.
|