|
TAITH FEICIO GOGLEDD CYMRU - 8 MEHEFIN 2008
Eleni mae British Heart Foundation Cymru (BHF) yn lansio taith feicio newydd sbon yng Ngogledd Cymru, ac hoffem eich gwahodd i ymuno â ni am ddiwrnod i’w gofio!
Mae Taith Feicio Gogledd Cymru a gynhelir ar 8 Mehefin yn weithgaredd gwych i bawb o bob oedran a gallu. Cewch fwynhau golygfeydd godidog o arfordir a chefn gwlad yr ardal, gyda’r rhan helaeth o’r cwrs yn dilyn llwybrau beicio, i ffwrdd o’r traffig.
|