"" North Wales Outdoor Challenge ""
Cartref
Beth yw 5x30?
Dod o Hyd I Lwybr
Ynys Mon
Gwynedd
Conwy
Sir Ddinbych
Pwll Cae Bric as Afon Clwyd, y Rhyl
Marine Lake a Parc Drifft, y Rhyl
Afon Llanelwy
Taith Camlas Llangollen
Cae Ddol a thref Rhuthun
Sir Y Fflint
Wrecsam
Linciau

 

 

Llwybrau yn Sir Ddinbych

Marine Lake a Llwybr Beicio

Lleoliad: Pwll Cae Bric ac Afon Clwyd, y Rhyl
Gweithgaredd: Cerdded
Disgrifiad:  

Gan gychwyn o Swyddfa’r Gwasanaethau Cefn Gwlad wrth Bwll Dŵr Brickfields, cerddwch o amgylch y pŵll dwr yn groes i’r cloc, gan alw heibio’r amrywiol gerfluniau, yr adar a’r adar dŵr ar hyd y ffordd. Unwaith y cyrhaeddwch chi gornel chwith bellaf y pwll dŵr, cymerwch y llwybr ar y dde ichi, drwy’r giât mochyn ac allan i Stad Ddiwydiannol Cefndy, dilynwch y ffordd i lawr ac i’r dde tuag at Ffordd Cefndy.

Gan droi i’r chwith ar Ffordd Cefndy, cymerwch y llwybr troed yn syth ar y dde ichi, o amgylch cefn y Maes Carafanau. Gan ddilyn y llwybr troed byddwch yn croesi dros bont fechan, daliwch i fynd ymlaen, gan gymryd y llwybr i’r chwith ichi.

Dyma gychwyn taith gerdded gron lawn sy’n cynnwys Glan y Morfa. Wrth ichi gerdded ar hyd y llwybr byddwch yn dilyn Afon Clwyd i’r chwith ichi. Yna bydd y llwybr yn gwyro rownd i’r dde, ble byddwch yn dilyn cledrau’r trên ar yr ochr chwith ichi. Yna bydd y llwybr yn gwyro eto i’r dde, ble byddwch yn dal i fynd yn eich blaen, gan lanio’n ôl yn nechrau’r llwybr crwn. Cymerwch y llwybr yn ôl dros y bont fechan, gan fynd heibio’r maes carafanau, sydd ar y chwith ichi y tro hwn.

Unwaith y cyrhaeddwch chi Ffordd Cefndy trowch i’r dde ac yna i’r chwith ac i’r dde eto, yn ôl i lawr i bwll dŵr Brickfields. Ewch drwy’r giât mochyn, trowch i’r dde a dilyn y llwybr, gan gwblhau gweddill taith gerdded Pwll Dŵr Brickfields, yn ôl i’r man cychwyn.

Map

 

 

I lawrlwytho copi o’r wybodaeth uchod ar gyfer argraffydd, cliciwch ar y ddolen gyswllt ‘lawrlwytho PDF’ isod.
Iawrlwytho PDF
Llwybr Rhif 1 5x30 Sir Ddinbych
Math o Ddogfen: Ffeil Acrobat/PDF
Maint y Ddogfen: 237k
Nodyn: Mae’r ddogfen hon ar ffurf PDF ac mae angen meddalwedd megis Adobe Acrobat Reader i’w gweld.  Mae’r rhan fwyaf o gyfrifiaduron eisoes â’r meddalwedd hwn.  Os nad ydych yn sicr a oes gennych chi’r meddalwedd hwn ai peidio, agorwch y ffeil uchod.  Os medrwch ddarllen y ddogfen, yna mae’r meddalwedd gennych eisoes. Os nad ydych yn medru agor y ddogfen, yna efallai nad yw’r meddalwedd ar eich cyfrifiadur. Os felly, cliciwch ar y ddolen gyswllt isod i fynd i wefan Adobe lle gallwch lawrlwytho copi o Acrobat Reader am ddim. Cael Adobe Acrobat Reader.

 

Wrexham County Borough Council Denbighshire County Council Flintshire County Council Llywodraeth Cynulliad Cymru Her Iechyd Cymru Cyngor Chwaraeon Cymru Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Cyngor Gwynedd yngor Sir Ynys Mon
Amdanom Ni | Polisi Preifatrwydd | © HBS Ltd 2006