|
|
|

|
| Lleoliad: |
Marine Lake a Parc Drifft, y Rhyl |
| Gweithgaredd: |
Cerdded |
| Disgrifiad: |
|
Bydd y daith Gerdded / Feicio yn cychwyn o adeilad y Cadetiaid Môr sydd wrth ymyl y Marine Lake. Yna bydd y daith yn mynd o amgylch y llyn yr un ffordd â’r cloc nes i’r llwybr gwrdd â Wellington Road (A548) yn agos i bont a maes parcio pont Las y Foryd.
Bydd cerddwyr yn croesi Ffordd Wellington i’r maes parcio gyferbyn a bydd beicwyr yn defnyddio’r system gylchfan fach a fydd yn mynd â thraffig o Ffordd Wellington i’r B5118 Rhodfa’r Gorllewin. Bydd cerddwyr a beicwyr yn dilyn Rhodfa’r Gorllewin (cerddwyr yn croesi’r ffordd yma at bromenâd Rhodfa’r Gorllewin).
Ymhellach ymlaen ar hyd Rhodfa’r Gorllewin, bydd cerddwyr a beicwyr yn dilyn y llwybrau perthnasol sydd wedi’u marcio, gan fynd heibio’r llithrfa ac i gyfadeilad y Parc Drifft sydd wrthi’n cael ei ddatblygu.
Y man troi rownd fydd y Tŵr Awyr yn agos i gyfadeilad y sinema. Yn y fan yma byddwch yn dilyn y daith yn ôl i’r Marine Lake gan fynd heibio’r parc Difyrion ar yr ochr chwith. Bydd cerddwyr a beicwyr yn croesi Ffordd Wellington i ymuno â llwybr y Marine Lake (yn y maes parcio) ac yn dal i ddilyn y llwybr yma (yr un ffordd â’r cloc) tan ddiwedd y daith, sydd wedi’i leoli wrth Adeilad y Cadetiaid Môr, o ble y bu ichi gychwyn.

|
| Sut mae cyrraedd y man cychwyn: |
Gellir cyrraedd y fynedfa i’r Marine Lake ar gyfer cychwyn y daith ar hyd Ffordd Wellington (A548), gan droi i’r dde os ydych yn teithio o Fae Cinmel ac i’r chwith o Ganol Tref Y Rhyl i Westbourne Avenue. Dilynwch y ffordd yma am 100 llath a throi i’r dde at y Marine Lake. |
| I lawrlwytho copi o’r wybodaeth uchod ar gyfer argraffydd, cliciwch ar y ddolen gyswllt ‘lawrlwytho PDF’ isod. |
|
Llwybr Rhif 2 5x30 Sir Ddinbych |
| Math o Ddogfen: Ffeil Acrobat/PDF |
| Maint y Ddogfen: 237k |
| Nodyn: Mae’r ddogfen hon ar ffurf PDF ac mae angen meddalwedd megis Adobe Acrobat Reader i’w gweld. Mae’r rhan fwyaf o gyfrifiaduron eisoes â’r meddalwedd hwn. Os nad ydych yn sicr a oes gennych chi’r meddalwedd hwn ai peidio, agorwch y ffeil uchod. Os medrwch ddarllen y ddogfen, yna mae’r meddalwedd gennych eisoes. Os nad ydych yn medru agor y ddogfen, yna efallai nad yw’r meddalwedd ar eich cyfrifiadur. Os felly, cliciwch ar y ddolen gyswllt isod i fynd i wefan Adobe lle gallwch lawrlwytho copi o Acrobat Reader am ddim. Cael Adobe Acrobat Reader. |
|