Mae’r daith gerdded yn dechrau yn y maes parcio nesaf at y Gamekeepers Inn a lawnt Clwb Bowlio Llanelwy.
O’r maes parcio dilynwch y llwybr i lawr at yr afon gan fynd heibio llecyn chwarae’r plant ar y dde, unwaith y byddwch wedi cyrraedd yr afon dilynwch y llwybr i’r dde.
Daliwch i fynd yn eich blaen ar hyd y llwybr gan ddilyn hynt yr afon, gan fynd o dan yr A55 hyd nes y dewch chi at bont fechan.
Croeswch y bont a throi i’r chwith, eto’n dilyn llwybr yr afon.
Unwaith eto byddwch yn cerdded o dan yr A55 gan fynd heibio’r Farchnad Wartheg, y Maes Criced a’r llyfrgell leol ar y dde ichi ar hyd Roe Llanelwy.
Ymhellach draw ar y dde ichi fe welwch chi’r Feddygfa a’r maes parcio. Cadwch i’r dde hyd nes ichi gyrraedd The Roe (A525) gan droi i’r chwith.
Gan gadw ar y palmant daliwch i fynd heibio’r gylchfan (ar y dde ichi) a dal i fynd ymlaen dros y bont ar y Stryd Fawr.
Pan fydd hi’n ddiogel croeswch y ffordd, daliwch i fynd ymlaen hyd nes ichi gyrraedd giât ar eich dde, ewch drwy’r giât, i lawr y grisiau a daliwch i gerdded ar gylch i lawr at y cyrtiau tennis, gan fynd o amgylch y maes pêl-droed ac yn ôl ar hyd yr afon.
Daliwch i fynd ymlaen, naill ai drwy’r twnnel ac yn ôl i’r maes parcio neu i fyny i’r ffordd fawr (Stryd Fawr), gan groesi drosodd i Stryd Isaf ac yn ôl i’r maes parcio.

|