"" North Wales Outdoor Challenge ""
Cartref
Beth yw 5x30?
Dod o Hyd I Lwybr
Ynys Mon
Gwynedd
Conwy
Sir Ddinbych
Pwll Cae Bric as Afon Clwyd, y Rhyl
Marine Lake a Parc Drifft, y Rhyl
Afon Llanelwy
Taith Camlas Llangollen
Cae Ddol a thref Rhuthun
Sir Y Fflint
Wrecsam
Linciau

 

 

Llwybrau yn Sir Ddinbych

Taith Camlas Llangollen

Lleoliad: Taith Camlas Llangollen
Gweithgaredd: Cerdded
Disgrifiad:  

Gan gychwyn wrth fynedfa’r Ganolfan Hamdden, dilynwch y ffordd i lawr, gan fynd drwy fynedfa’r Ysgol/Ganolfan Hamdden a throi i’r chwith.

Cerddwch ar hyd ochr y ffordd (’does dim palmant felly byddwch yn ofalus rhag y traffig sy’n dod o’r ddau gyfeiriad).

Trowch i’r dde a chroesi’r bont, gan droi i’r dde eto i fynd ar y llwybr ceffylau sy’n rhedeg wrth ochr y gamlas. Cerddwch ar hyd y gamlas, gan fynd o dan 2 bont.

Ar ôl yr 2il bont, trowch i’r chwith, gan gerdded yn ôl i’r cyfeiriad o ble daethoch i fyny’r allt i’r ffordd fawr.

Croeswch dros y ffordd a chymryd y ffordd sydd gyferbyn (Tower Road).

Dilynwch y ffordd yma ar i fyny nes y dewch chi i groesffordd.

Trowch i’r chwith i Ffordd Dinbren. Daliwch i fynd ymlaen i fyny’r ffordd, eto byddwch yn ymwybodol o’r traffig.

Wrth i’r ffordd wyro rownd i’r chwith fe welwch chi giât ar y dde. Cerddwch drwy’r giât a dal i fynd ymlaen i fyny’r cae tuag at y gamfa yng nghornel y cae (Nodwch os gwelwch yn dda fod y rhan yma o’r daith gerdded yn llethr serth).

Daliwch i fynd ymlaen dros y gamfa, gan gymryd y llwybr i’r dde ichi, gan ei ddilyn i fyny hyd nes cyrraedd darn gwastad o dir.

Daliwch i fynd ymlaen, i lawer yr allt, drwy’r giât, gan ddilyn y llwybr i lawr i faes parcio’r ysgol, a throi i’r dde, yn ôl i’r Ganolfan Hamdden.

Dewis arall byrrach gyda fawr ddim ar i fyny

Gan gychwyn wrth fynedfa’r Ganolfan Hamdden, dilynwch y ffordd i lawr, gan fynd drwy fynedfa’r Ysgol/Ganolfan Hamdden a throi i’r chwith.

Cerddwch ar hyd ochr y ffordd (’does dim palmant felly byddwch yn ofalus rhag y traffig sy’n dod o’r ddau gyfeiriad).

Trowch i’r dde a chroesi’r bont, gan droi i’r dde eto i fynd ar y llwybr ceffylau sy’n rhedeg wrth ochr y gamlas. Cerddwch ar hyd y gamlas, gan fynd o dan 2 bont.

Ar ôl yr 2il bont, trowch i’r chwith, gan gerdded yn ôl i’r cyfeiriad o ble daethoch i fyny’r allt i’r ffordd fawr. Croeswch dros y ffordd a chymryd y ffordd sydd gyferbyn (Tower Road).

Dilynwch y ffordd yma ar i fyny nes y dewch chi i groesffordd.

Trowch i’r dde i Ffordd Dinbren. Daliwch i fynd ymlaen gan fynd heibio Safle Pafiliwn Llangollen ar y dde ichi nes y byddwch yn ôl wrth fynedfa’r Ysgol / Ganolfan  Hamdden.

Trowch i’r chwith a dal i fynd ymlaen yn ôl i fyny i’r Ganolfan Hamdden.

Llangollen

I lawrlwytho copi o’r wybodaeth uchod ar gyfer argraffydd, cliciwch ar y ddolen gyswllt ‘lawrlwytho PDF’ isod.
Iawrlwytho PDF
Llwybr Rhif 4 5x30 Sir Ddinbych
Math o Ddogfen: Ffeil Acrobat/PDF
Maint y Ddogfen: 237k
Nodyn: Mae’r ddogfen hon ar ffurf PDF ac mae angen meddalwedd megis Adobe Acrobat Reader i’w gweld.  Mae’r rhan fwyaf o gyfrifiaduron eisoes â’r meddalwedd hwn.  Os nad ydych yn sicr a oes gennych chi’r meddalwedd hwn ai peidio, agorwch y ffeil uchod.  Os medrwch ddarllen y ddogfen, yna mae’r meddalwedd gennych eisoes. Os nad ydych yn medru agor y ddogfen, yna efallai nad yw’r meddalwedd ar eich cyfrifiadur. Os felly, cliciwch ar y ddolen gyswllt isod i fynd i wefan Adobe lle gallwch lawrlwytho copi o Acrobat Reader am ddim. Cael Adobe Acrobat Reader.

 

Wrexham County Borough Council Denbighshire County Council Flintshire County Council Llywodraeth Cynulliad Cymru Her Iechyd Cymru Cyngor Chwaraeon Cymru Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Cyngor Gwynedd yngor Sir Ynys Mon
Amdanom Ni | Polisi Preifatrwydd | © HBS Ltd 2006