"" North Wales Outdoor Challenge ""
Cartref
Beth yw 5x30?
Dod o Hyd I Lwybr
Ynys Mon
Gwynedd
Conwy
Sir Ddinbych
Pwll Cae Bric as Afon Clwyd, y Rhyl
Marine Lake a Parc Drifft, y Rhyl
Afon Llanelwy
Taith Camlas Llangollen
Cae Ddol a thref Rhuthun
Sir Y Fflint
Wrecsam
Linciau

 

 

Llwybrau yn Sir Ddinbych

Cae Ddol a Thref Rhuthun

Lleoliad: Cae Ddol a Thref Rhuthun
Gweithgaredd: Cerdded
Disgrifiad:  

Mae’r daith gerdded yn dechrau o Faes Parcio Cae Ddol yn gyfagos i Brofiad yr Hen Garchar.

Wrth ichi gerdded ymlaen i mewn i Gae Ddol, dilynwch yr afon ar eich dde, gan groesi’r afon dros unrhyw un o’r 3 phont fechan, cerddwch yn glocwedd a gwneud pob un o 9 darn pren naturiol y llwybr sioncio.  Mae cyfarwyddiadau ar gyfer pob darn o gyfarpar i’w gael nesaf at yr offer.
Mae’r llwybr sioncio’n cynnwys y canlynol:

  1. Trawst Cydbwysedd
  2. Ystudfachau
  3. Bar Halio 3 safle
  4. Hybiau Boncyffion
  5. Trawstiau Halio
  6. Pentwr boncyffion
  7. Mainc Sythu
  8. Barrau Cyflin

Unwaith y byddwch wedi gorffen y llwybr sioncio, croeswch yn ôl dros yr afon i’ch dde a dilynwch y ffens ar eich chwith hyd nes ichi gyrraedd twnnel brics crwn.

Ewch drwy’r twnnel a dal i fynd yn eich blaen, gan fynd heibio Scot House ar y chwith hyd nes y cyrhaeddwch chi Ffordd Corwen.

Croeswch dros y ffordd, gan gerdded i’r chwith ar hyd y palmant.

Daliwch i fynd ymlaen drwy’r dref, gan droi i’r chwith i Stryd Clwyd neu i fynd ar i waered yn fwy serth trowch y chwith cyntaf cyn Stryd Clwyd a dal i fynd ymlaen gan ymuno â Stryd Clwyd.

Bydd y ffordd yma’n mynd â chi heibio’r Hen Garchar (www.carcharrhuthun.co.uk) ar y dde ichi ac yn ôl i faes parcio Cae Ddol ar eich chwith.

Rhuthun

I lawrlwytho copi o’r wybodaeth uchod ar gyfer argraffydd, cliciwch ar y ddolen gyswllt ‘lawrlwytho PDF’ isod.
Iawrlwytho PDF
Llwybr Rhif 5 5x30 Sir Ddinbych
Math o Ddogfen: Ffeil Acrobat/PDF
Maint y Ddogfen: 237k
Nodyn: Mae’r ddogfen hon ar ffurf PDF ac mae angen meddalwedd megis Adobe Acrobat Reader i’w gweld.  Mae’r rhan fwyaf o gyfrifiaduron eisoes â’r meddalwedd hwn.  Os nad ydych yn sicr a oes gennych chi’r meddalwedd hwn ai peidio, agorwch y ffeil uchod.  Os medrwch ddarllen y ddogfen, yna mae’r meddalwedd gennych eisoes. Os nad ydych yn medru agor y ddogfen, yna efallai nad yw’r meddalwedd ar eich cyfrifiadur. Os felly, cliciwch ar y ddolen gyswllt isod i fynd i wefan Adobe lle gallwch lawrlwytho copi o Acrobat Reader am ddim. Cael Adobe Acrobat Reader.

 

Wrexham County Borough Council Denbighshire County Council Flintshire County Council Llywodraeth Cynulliad Cymru Her Iechyd Cymru Cyngor Chwaraeon Cymru Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Cyngor Gwynedd yngor Sir Ynys Mon
Amdanom Ni | Polisi Preifatrwydd | © HBS Ltd 2006