Mae’r daith gerdded yn dechrau o Faes Parcio Cae Ddol yn gyfagos i Brofiad yr Hen Garchar.
Wrth ichi gerdded ymlaen i mewn i Gae Ddol, dilynwch yr afon ar eich dde, gan groesi’r afon dros unrhyw un o’r 3 phont fechan, cerddwch yn glocwedd a gwneud pob un o 9 darn pren naturiol y llwybr sioncio. Mae cyfarwyddiadau ar gyfer pob darn o gyfarpar i’w gael nesaf at yr offer.
Mae’r llwybr sioncio’n cynnwys y canlynol:
- Trawst Cydbwysedd
- Ystudfachau
- Bar Halio 3 safle
- Hybiau Boncyffion
- Trawstiau Halio
- Pentwr boncyffion
- Mainc Sythu
- Barrau Cyflin
Unwaith y byddwch wedi gorffen y llwybr sioncio, croeswch yn ôl dros yr afon i’ch dde a dilynwch y ffens ar eich chwith hyd nes ichi gyrraedd twnnel brics crwn.
Ewch drwy’r twnnel a dal i fynd yn eich blaen, gan fynd heibio Scot House ar y chwith hyd nes y cyrhaeddwch chi Ffordd Corwen.
Croeswch dros y ffordd, gan gerdded i’r chwith ar hyd y palmant.
Daliwch i fynd ymlaen drwy’r dref, gan droi i’r chwith i Stryd Clwyd neu i fynd ar i waered yn fwy serth trowch y chwith cyntaf cyn Stryd Clwyd a dal i fynd ymlaen gan ymuno â Stryd Clwyd.
Bydd y ffordd yma’n mynd â chi heibio’r Hen Garchar (www.carcharrhuthun.co.uk) ar y dde ichi ac yn ôl i faes parcio Cae Ddol ar eich chwith. |