"" Get Active Challenge ""
Cartref
Cadw’n Heini
Dod O Hyd I Weithgaredd
Cofnod Gweithgareddau
Cysylltwch A Ni

 

 

Cadw’n Heini

Mae’n amlwg bod angen ymagwedd arloesol i fynd i’r afael â’r mater o annog mwy o oedolion i wneud eu 5 x 30 munud o ymarfer corff yn Wrecsam a Sir y Fflint.

Get Active

Yn dilyn ymarfer mapio yn Wrecsam a Sir y Fflint, daeth yn amlwg bod ystod eang o gyfleoedd amrywiol ar gael eisoes i bobl gymryd rhan mewn ymarfer corff.  Fodd bynnag, yn aml nid yw pobl yn ymwybodol bod y wybodaeth ar gael neu nid ydynt yn gwybod sut i gael y wybodaeth hon.  Oherwydd hyn, mae Wrecsam a Sir y Fflint wedi dod at eil gilydd i ddatblygu cynllun ‘Cael Gwybodaeth’ a fydd yn darparu gwybodaeth i annog pobl i gymryd rhan mewn ymarfer corff.  ‘Cadw’n Heini’ : Creu ‘Cael Gwybodaeth Cadw’n Heini’.

Dod o hyd i weithgaredd Cliciwch yma i ddod o hyd i weithgaredd a fydd yn eich siwtio chi.
Cofnod gweithgareddau Beth am gadw cofnod o’r gweithgareddau yr ydych yn eu gwneud?  Bydd hyn yn helpu i roi hwb i’ch hyder wrth i chi edrych yn ôl ar yr hyn yr ydych wedi’i gyflawni ac yn eich helpu i weithio tuag at dargedau ar gyfer gweithgareddau a ffordd iach o fyw.

Ffocws y Cynllun Cadw’n Heini yw:

Rhannu gwybodaeth gyda grwpiau nad ydym wedi gweithio ochr yn ochr â nhw yn y gorffennol fel Adran Chwaraeon a Hamdden
Darparu gwybodaeth benodol am y gweithgareddau ac i bwy y byddant yn berthnasol
Darganfod pa fylchau sydd yn y ddarpariaeth ar hyn o bryd a dechrau gweithgareddau newydd sy’n briodol i grwpiau penodol
Ymgynghori er mwyn canfod pa gyfleoedd sydd ar gael a darparu taflenni gwybodaeth perthnasol am y gweithgareddau hyn
Ac yn y pen draw annog mwy o oedolion i gadw’n heini


 

 

yngor Sir Ynys Mon Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Cyngor Sir Y Fflint Conwy County Borough Council Llywodraeth Cynulliad Cymru Cyngor Gwynedd Her Iechyd Cymru Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Amdanom Ni | Polisi Preifatrwydd | © HBS Ltd 2006