|
Gall cadw cofnod o'ch gweithgareddau eich helpu i gyrraedd eich nodau ffordd o fyw a'ch helpu i weld gwelliannau yn eich ffitrwydd.
Defnyddiwch un o'n cofnodion gweithgarwch, sydd ar gael yma i'w lawrlwytho, i greu eich cofnod eich hun. Defnyddiwch dudalen wahanol ar gyfer pob wythnos.
1. COFNOD O WEITHGARWCH WYTHNOSOL
Gellir defnyddio'r gyntaf i gofnodi unrhyw weithgareddau rydych yn eu gwneud. Dylech anelu at 5 sesiwn yr wythnos.
2. SAWL CAM YDYCH CHI’N EI GYMRYD?
Os ydych yn mwynhau cerdded ac os oes gennych stepometr, yna gallwch ddefnyddio'r siart cofnodi isod i weld pa mor agos ydych chi bob dydd at gyrraedd y lefel a argymhellir o 10,000 o gamau.
|