|
Mae’n amlwg bod angen ymagwedd arloesol i fynd i’r afael â’r mater o annog mwy o oedolion i wneud eu 5 x 30 munud o ymarfer corff yn Wrecsam a Sir y Fflint.
Yn dilyn ymarfer mapio yn Wrecsam a Sir y Fflint, daeth yn amlwg bod ystod eang o gyfleoedd amrywiol ar gael eisoes i bobl gymryd rhan mewn ymarfer corff. Fodd bynnag, yn aml nid yw pobl yn ymwybodol bod y wybodaeth ar gael neu nid ydynt yn gwybod sut i gael y wybodaeth hon. Oherwydd hyn, mae Wrecsam a Sir y Fflint wedi dod at eil gilydd i ddatblygu cynllun ‘Cael Gwybodaeth’ a fydd yn darparu gwybodaeth i annog pobl i gymryd rhan mewn ymarfer corff. ‘Cadw’n Heini’ : Creu ‘Cael Gwybodaeth Cadw’n Heini’.
| Dod o hyd i weithgaredd |
Cliciwch yma i ddod o hyd i weithgaredd a fydd yn eich siwtio chi. |
| Cofnod gweithgareddau |
Beth am gadw cofnod o’r gweithgareddau yr ydych yn eu gwneud? Bydd hyn yn helpu i roi hwb i’ch hyder wrth i chi edrych yn ôl ar yr hyn yr ydych wedi’i gyflawni ac yn eich helpu i weithio tuag at dargedau ar gyfer gweithgareddau a ffordd iach o fyw. |
Ffocws y Cynllun Cadw’n Heini yw:
|
Rhannu gwybodaeth gyda grwpiau nad ydym wedi gweithio ochr yn ochr â nhw yn y gorffennol fel Adran Chwaraeon a Hamdden |
|
Darparu gwybodaeth benodol am y gweithgareddau ac i bwy y byddant yn berthnasol |
|
Darganfod pa fylchau sydd yn y ddarpariaeth ar hyn o bryd a dechrau gweithgareddau newydd sy’n briodol i grwpiau penodol |
|
Ymgynghori er mwyn canfod pa gyfleoedd sydd ar gael a darparu taflenni gwybodaeth perthnasol am y gweithgareddau hyn |
|
Ac yn y pen draw annog mwy o oedolion i gadw’n heini |
|