|
|
|

|
| Lleoliad: |
Parc y Mileniwm, Penrhyndeudraeth |
| Gweithgaredd: |
Cerdded, Cyfeiriannu |
| Disgrifiad: |
|
Cerdded – Mae’r daith yn cychwyn yn y maes parcio. Cerddedwch i mewn i’r parc gan ddilyn arwyddion gwyrdd Her Awyr Agored. Dilynwch y llwybr dros y bont goed ac allan o’r parc drwy fynedfa Trem Y Moelwyn. Ar ddiwedd y llwybr trowch i’r dde, gan gymryd gofal o gerbydau ar y ffordd, a dilynwch arwyddion llwybr cyhoeddus fydd yn arwain i fyny cyfres o risiau. Ar ôl cyrraedd y briffordd, a chyda gofal unwaith eto, trowch i’r dde a dilyn y lon am tua 50 medr, cyn cymryd troad arall i’r dde fydd yn mynd â chi yn ôl i’r parc drwy fynedfa Maes Hendre. Yna dilynwch arwyddion gwyrdd Her Awyr Agored yn ôl i’r cychwyn.
Er mwyn mwynhau taith gerdded tua 30 munud, dylech gwblhau’r daith ddwywaith.
Cyfeiriannu: Mae cwrs cyfeiriannu parhaol ym Mharc y Mileniwm. Mae mapiau cyfeiriannu ar gael yn siop Dewi. Faint o'r pwyntiau allwch chi ymweld â hwy mewn 30 munud? Gallwch amrywio eich taith bob tro i weld os gallwch wella eich nod.

|
| Sut mae cyrraedd y man cychwyn: |
Mae Parc y Milemiwm wedi ei leoli yng nghanol Penrhyndeudraeth, y tu ôl i Ysgol Gynradd Cefn Coch.
Mae’r daith gerdded yn dechrau ac yn gorffen yn y maes parcio ar y Stryd Fawr.
|
| I lawrlwytho copi o’r wybodaeth uchod ar gyfer argraffydd, cliciwch ar y ddolen gyswllt ‘lawrlwytho PDF’ isod. |
|
Llwybr Rhif 4 5x30 Gwynedd |
| Math o Ddogfen: Ffeil Acrobat/PDF |
| Maint y Ddogfen: 728k |
| Nodyn: Mae’r ddogfen hon ar ffurf PDF ac mae angen meddalwedd megis Adobe Acrobat Reader i’w gweld. Mae’r rhan fwyaf o gyfrifiaduron eisoes â’r meddalwedd hwn. Os nad ydych yn sicr a oes gennych chi’r meddalwedd hwn ai peidio, agorwch y ffeil uchod. Os medrwch ddarllen y ddogfen, yna mae’r meddalwedd gennych eisoes. Os nad ydych yn medru agor y ddogfen, yna efallai nad yw’r meddalwedd ar eich cyfrifiadur. Os felly, cliciwch ar y ddolen gyswllt isod i fynd i wefan Adobe lle gallwch lawrlwytho copi o Acrobat Reader am ddim. Cael Adobe Acrobat Reader. |
|