Beicio: Mae’r daith feicio wedi ei seilio ar ddwy daith sy’n bodoli yn barod fel rhan o gyfres “Gwyliau Beicio Cymru.” Bydd taith feicio Porthysgaden yn dechrau ac yn gorffen yng nghanol Tudweiliog a dylai gymryd tua 30 munud i’w chwblhau. Mae’r daith wedi ei nodi gydag arwyddion sy’n cydymffurfio â rheolau diogelwch y briffordd gyda logo Her Awyr Agored arnynt.
Ceir mwy o wybodaeth am “Gwyliau Beicio Cymru” ar www.gwynedd.gov.uk
Cerdded: Mae amryw o lwybrau cyhoeddus yn ardal Tudweiliog yn arwain tua’r arfordir. Yma mae Llwybr Arfordir Llyn yn ymdroelli’n hamddenol ar ei daith o Gaernarfon i Borthmadog. “Dyma wlad y porthydd gyda phob un ohonynt gyda’i naws unigryw ei hun.”
Ceir mwy o fanylion am Lwybr Arfordir Llyn ar www.gwynedd.gov.uk |