|
Cynhelir ‘Her 5km Menai’ i ddynion a merched dros 16 oed ar ddydd Sul 10ed o Fehefin. Mae’r her yn gyfle i ddynion a merched gychwyn ymarfer neu i ddatblygu eu ffitrwydd, beth bynnag yw eu safon presennol – gallwch gerdded neu loncian!
Bydd y cwrs yn cychwyn am 10.45yb ar Drac Athletau Treborth, dros Bont Menai, heibio Church Island a thrwy Coed Cyrnol cyn dychwelyd i a gorffen yn Nhreborth. Mae’r niferoedd wedi’w cyfyngu, felly, i osgoi siom dylech gofrestru ymlaen llaw. (Gweler atodiad ffurflen gais isod).
Byddwn yn danfon trefniadau’r diwrnod atoch ynghyd â derbyneb am y ffi cofrestru (£4). Bydd pawb sy’n cymeryd rhan yn derbyn pedometer, diod a medal.
Nodyn: Y dyddiad cau yw 30/5/07.
Edrychwn ymlaen i’ch gweld ar y 10ed!
FFURFLEN GOFRESTRU
| Ffurflen Gofrestru |
| Math o Ddogfen: Ffeil Acrobat/PDF |
| Maint y Ddogfen: 72k |
| Nodyn: Mae’r ddogfen hon ar ffurf PDF ac mae angen meddalwedd megis Adobe Acrobat Reader i’w gweld. Mae’r rhan fwyaf o gyfrifiaduron eisoes â’r meddalwedd hwn. Os nad ydych yn sicr a oes gennych chi’r meddalwedd hwn ai peidio, agorwch y ffeil uchod. Os medrwch ddarllen y ddogfen, yna mae’r meddalwedd gennych eisoes. Os nad ydych yn medru agor y ddogfen, yna efallai nad yw’r meddalwedd ar eich cyfrifiadur. Os felly, cliciwch ar y ddolen gyswllt isod i fynd i wefan Adobe lle gallwch lawrlwytho copi o Acrobat Reader am ddim. Cael Adobe Acrobat Reader. |
|