CARTREF
BETH YW 5X30?
DOD O HYD I LWYBR
LINCIAU

HER BYWIOGI SIR Y FFLINT A WRECSAM

HER BEICIO CONWY A SIR DDINBYCH

HER 5K MENAI GWYNEDD AC YNYS MÔN

 

HER AWYR AGORED 5X30 GOGLEDD CYMRU

Un o brif dargedau “Dringo’n Uwch”, Strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol, yw annog llawer o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ac yn enwedig 5 x 30 munud o ymarfer corff bob wythnos. Er mwyn cyflawni cynnydd yn y gyfran o bobl sy’n ymgymryd â gweithgarwch corfforol canolig o 30% i 50%
dros yr 20 mlynedd nesaf, bydd angen i 20,000 mwy o bobl ledled Cymru gyrraedd a chynnal y lefel hwn o weithgarwch.

Yn rhanbarth Gogledd Cymru, mae’r 6 Awdurdod Lleol a Chyngor Chwaraeon Cymru wedi gweithio ar y cyd i ddatblygu Her Awyr Agored Gogledd Cymru. Yn ystod y 12 mis nesaf, bydd pob Awdurdod yn datblygu 5 llwybr wedi’u nodi, mewn ardaloedd penodol ac ar gyfer grwpiau penodol. Bydd pob llwybr yn para tua 30 munud yr un, naill ai ar lwybr beicio ar y ffordd ac oddi ar y
ffordd, ar gwrs cyfeiriannu, ar lwybr cerdded, neu lwybr jogio etc.

Rydym wedi datblygu tair o raglenni rhanbarthol llai hefyd fel rhan o Her Awyr Agored Gogledd Cymru.  Mae’r rhain yn brosiectau a gynhelir ar y cyd rhwng awdurdodau yn yr ardaloedd canlynol, sydd wedi’u datblygu i gyd-fynd ag anghenion y boblogaeth leol.

Sir y Fflint a Wrecsam Her Bywiogi!
Conwy a Sir Ddinbych Her Beicio!
Gwynedd ac Ynys Môn Her 5k Menai

Dewiswch gyswllt o’r rhestr uchod neu o’r golofn chwith am fwy o wybodaeth am y rhaglenni newydd a chyffrous hyn.


 

 

 

Amdanom Ni | Polisi Preifatrwydd | © HBS Ltd 2006