CARTREF
BETH YW 5X30?
DOD O HYD I LWYBR
LINCIAU

 

 

DATGANIAD PREIFATRWYDD

Mae Her Awyr Agored Gogledd Cymru yn parchu’ch preifatrwydd ac yn ymroddedig i’w ddiogelu. Darparwyd y Datganiad Preifatrwydd hwn i roi gwybod i chi am y data rydym yn ei gasglu ar-lein a sut y defnyddir yr wybodaeth honno.

Rydym wedi dylunio’r wefan hon i’ch galluogi i ymweld â ni heb roi eich enw na datgelu unrhyw wybodaeth bersonol.

Gwybodaeth Bersonol

Mae Gwybodaeth Bersonol yn wybodaeth sy’n gysylltiedig â’ch enw neu hunaniaeth bersonol.  Nid oes unrhyw fan ar y safle hwn sy’n gofyn am wybodaeth bersonol.

Gwybodaeth Amhersonol

Mae gwybodaeth amhersonol yn ddata am ddefnydd a gwaith y gwasanaeth, heb ei gysylltu ag unigolyn penodol.  Rydym yn casglu hwn ar ffurf ystadegau defnydd cyffredinol sy’n rhoi gwybodaeth i ni am sut mae’r wefan hon yn cael ei defnyddio. Gall enghreifftiau o ddata amhersonol o’r fath gynnwys y nifer o ymweliadau â’r wefan, yr amseroedd cyffredinol o’r dydd a dyddiau’r wythnos y ceir ymweliadau â’r mannau ar y safle sydd o’r diddordeb mwyaf.

Bydd yr wybodaeth hon yn ein cynorthwyo i werthuso’r prosiect Her Awyr Agored 5x30 Gogledd Cymru. Ni fydd yr ystadegau hyn yn ein galluogi i’ch adnabod yn bersonol.

Dolenni Cyswllt i Wefannau Eraill

Rydym yn darparu sawl dolen gyswllt â gwefannau eraill er hwylustod a gwybodaeth. Os ewch i un o’r dolenni cyswllt hyn, byddwch yn gadael gwefan Her Awyr Agored 5x30 Gogledd Cymru. Nid oes gennym reolaeth dros y gwefannau hyn na’u polisïau preifatrwydd, sydd efallai’n wahanol i’n rhai ni ac nid ydym yn cefnogi nac yn gwneud sylwadau am y gwefannau eraill.

 

 

 

 

Amdanom Ni | Polisi Preifatrwydd | © HBS Ltd 2006