CARTREF
BETH YW 5X30?
DOD O HYD I LWYBR
LINCIAU

 

 

BETH YW 5x30?

Mae 5x30 yn dod o argymhelliad yr Adran Iechyd y dylai pawb wneud o leiaf 30 munud o weithgareddau corfforol ar 5 diwrnod yr wythnos er lles ein hiechyd. Mae’n ffaith mai dim ond 30% o boblogaeth Cymru sy’n gwneud digon o weithgareddau er lles eu hiechyd.

Yn gyffredinol, mae pobl yn llai bywiog nawr nag yr oeddent yn arfer bod. Mae ein bywydau wedi mynd yn fwy eisteddol o ganlyniad i dechnoleg fodern, fel ceir i’n cludo o gwmpas, lifftiau a grisiau symudol, siopa ar y we, a’r ystod gynyddol o adloniant sydd ar gael yn ein cartrefi sy’n ein gwneud yn llai tebygol o fynd allan. Mae’r diffyg gweithgaredd hwn yn bygwth ein hiechyd, gydag afiechydon cysylltiedig fel Clefyd y Galon a Diabetes yn dod yn fwy cyffredin ar draws Cymru.

Mae gweithgaredd corfforol yn gyfystyr ag unrhyw fath o weithgaredd rydym yn ei wneud yn ein bywyd dyddiol. Mae’n cynnwys ystod o weithgareddau, o raglenni chwaraeon ac ymarfer corff wedi’u trefnu i waith tŷ, garddio a gweithgareddau dyddiol  eraill fel cerdded o gwmpas siopau. Mae hyd yn oed codi i droi’r teledu ymlaen yn weithgaredd, er ei fod yn un bach iawn. Yr argymhelliad yw gwneud gweithgareddau cymharol ddwys, rhai sy’n gwneud i ni anadlu’n gyflymach a chwysu ychydig. Esiampl o hyn yw cerdded yn gyflym, a dylai fod yn bosibl parhau i siarad ar y dwysedd hwn.

Wrth symud ac ymarfer ein cyrff, nid yn unig rydym yn llosgi calorïau, sy’n ein helpu i gynnal pwysau ein cyrff, rydym hefyd yn cryfhau ein cyhyrau a’n calonnau, ac yn gwella ein cylchrediad.

Mae angen cryn ymrwymiad i wneud yr ymarfer corff sy’n cael ei argymell. Fodd bynnag, mae sawl ffordd o gynyddu eich lefel gweithgareddau. Grisiau yn lle lifftiau, cerdded a beicio ar deithiau byr ac ati.

Gellir gwneud y 30 munud i gyd gyda’i gilydd, neu mewn plyciau byrrach. e.e. 3 x 10 munud. Felly nid oes esgus gan unrhyw un i beidio gwneud unrhyw beth.

Mae amgylchedd naturiol brydferth Gogledd Cymru yn berffaith ar gyfer sawl gweithgaredd awyr agored ar wahanol lefelau. Ar y safle hwn, rydym wedi dewis llwybrau 5x30 munud ym mhob un o 6 sir Gogledd Cymru i chi eu mwynhau. Maent i gyd yn seiliedig ar weithgareddau awyr agored ac yn addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd a gallu.

 

 

 

Amdanom Ni | Polisi Preifatrwydd | © HBS Ltd 2006