"" North Wales Outdoor Challenge ""
Cartref
Beth yw 5x30?
Dod o Hyd I Lwybr
Ynys Mon
Gwynedd
Conwy
Sir Ddinbych
Sir Y Fflint
Wrecsam

Ysgol Llai / Parc Gwledig Alyn Waters

Canol y Dref Wrecsam
Parc Gwledig Ty Mawr
Lles Glowyr Llai
Ruabon
Linciau

 

 

Llwybrau yn Wrecsam

Canol y Dref, Wrecsam

Lleoliad: Parc Gwledig Tŷ Mawr, Cefn Mawr
Gweithgaredd:

Cyfeiriadu, cerdded (canolraddol)

Disgrifiad:  

Mae'r parc yng Nghefn Mawr sydd â golygfeydd hyfryd gan gynnwys traphont ddŵr fyd-enwog Pontcysyllte.

Disgrifiad

Cyfeiriadu:
Bydd llwybr cyfeiriadu parhaol yn dod i'r parc gwledig cyn bo hir.  Bydd y llwybr yn dechrau yn y ganolfan ymwelwyr ac yn mynd heibio i'r colomendy coffaol a'r draphont ffordd ar hyd y llwybr ar lan yr afon Dyfrdwy i gyrraedd y draphont ddŵr yn y pen draw.  Bydd y llwybr yn eich arwain trwy gefn gwlad prydferth ac at olygfeydd hyfryd o'r cefn gwlad cyfagos.  Bydd mapiau cyfeiriadu ar gael o'r ganolfan ymwelwyr.  Bydd angen pin a phensil arnoch i gofnodi'r wybodaeth ar y llwybr.

Cerdded:
Mae taith gerdded barhaol yn Nhŷ Mawr sydd â golygfeydd gwych o'r cefn gwlad.  Mae'r daith yn dechrau yn y ganolfan ymwelwyr.  Wrth adael y ganolfan ymwelwyr trowch i'r dde ac ar ôl 50 metr trowch i'r dde eto i lawr y lôn.  Bydd y llwybr hwn yn mynd â chi heibio i'r colomendy coffaol a'r draphont ffordd.

Dilynwch y llwybr ar hyd glan yr afon am hanner milltir.  Cyn i'r llwybr droi i'r dde i fynd i fyny'r allt, trowch i'r chwith i lawr y grisiau ar hyd y llwybr pren.  Dilynwch lwybr yr afon Dyfrdwy am dri chwarter milltir nes i chi gyrraedd y draphont ddŵr.

Ar ôl cyrraedd gwaelod y draphont ddŵr, ewch i fyny'r grisiau a throwch i'r chwith o dan fwa'r draphont ddŵr.

Ar ôl cyrraedd y ffordd, cerddwch i'r chwith i lawr yr allt gan droi i'r chwith dros Y Bont.  Dilynwch y ffordd am dri chwarter milltir cyn cymryd y troad cyntaf i'r chwith ar hyd llwybr tynnu'r gamlas.

Ar ôl cyrraedd y gamlas, trowch i'r chwith a dilynwch lwybr tynnu'r draphont ddŵr.  Croeswch y draphont ddŵr ac ewch ar hyd y llwybr ar yr ochr dde a dychwelwch ar hyd y llwybr ar lan yr afon.

Wrth ddychwelyd i'r parc trowch i'r chwith a cherddwch i fyny'r allt i'r ganolfan ymwelwyr.

Ty Mawr

Sut i gyrraedd yno:  

Mae'r parc bum milltir i'r de o Wrecsam ym mhentref Cefn Mawr.  Mae'r parc wedi'i arwyddo fel Parc Gwledig ar droad Llangollen / Rhiwabon ar yr A483. Dilynwch yr arwyddion brown a gwyn i'r parc.

I lawrlwytho copi o’r wybodaeth uchod ar gyfer argraffydd, cliciwch ar y ddolen gyswllt ‘lawrlwytho PDF’ isod.
Iawrlwytho PDF
Llwybr Rhif 3 5x30 Wrecsam
Math o Ddogfen: Ffeil Acrobat/PDF
Maint y Ddogfen: 237k
Nodyn: Mae’r ddogfen hon ar ffurf PDF ac mae angen meddalwedd megis Adobe Acrobat Reader i’w gweld.  Mae’r rhan fwyaf o gyfrifiaduron eisoes â’r meddalwedd hwn.  Os nad ydych yn sicr a oes gennych chi’r meddalwedd hwn ai peidio, agorwch y ffeil uchod.  Os medrwch ddarllen y ddogfen, yna mae’r meddalwedd gennych eisoes. Os nad ydych yn medru agor y ddogfen, yna efallai nad yw’r meddalwedd ar eich cyfrifiadur. Os felly, cliciwch ar y ddolen gyswllt isod i fynd i wefan Adobe lle gallwch lawrlwytho copi o Acrobat Reader am ddim. Cael Adobe Acrobat Reader.

 

Cyngor Sir Ynys Mon Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Cyngor Sir Ddinbych Cyngor Sir Y Fflint Cyngor Chwaraeon Cymru Cyngor Gwynedd Llywodraeth Cynulliad Cymru Her Iechyd Cymru Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Amdanom Ni | Polisi Preifatrwydd

| © HBS Ltd 2006