|

|
| Lleoliad: |
Sefydliad Lles Glowyr Llai, Llai |
| Gweithgaredd: |
Beicio |
| Disgrifiad: |
|
Bydd y llwybr beicio'n dechrau o Sefydliad Lles Glowyr Llai. O'r sefydliad, trowch i'r dde ar hyd Ffordd Newydd Llai B5425. Bydd hon yn eich arwain at Barc Gwledig Dyfroedd Alun gan fynd i mewn wrth y maes chwarae. Bydd y llwybr yn eich arwain trwy'r parc trwy goetir a heibio i fadarchen efydd i ymuno â Ffordd y Parc. Trowch i'r chwith a dilynwch y ffordd hon am oddeutu 900m. Ar ôl hynny gallwch droi i'r dde tuag at Felin Bradle. Cyn Melin Bradle trowch i'r chwith i fyny tuag at y fynedfa wrth y maes chwarae. Dychwelwch i'r briffordd trwy droi i'r chwith ar hyd Ffordd Newydd Llai B5425 a dychwelwch ar hyd y llwybr beicio yn ôl i Sefydliad Lles Glowyr Llai.
Mae'r llwybr yn mynd ar hyd priffordd felly cofiwch gadw'n ddiogel bob amser wrth feicio ar hyd y llwybr hwn. Gwisgwch ddillad adlewyrchol a fflwroleuol sy'n addas ar gyfer y tywydd a'r amser er mwyn helpu defnyddwyr eraill y ffordd i'ch gweld. Gwisgwch helmed feicio bob amser i atal anafiadau i'ch pen. Dylech amnewid helmedi sydd wedi'u difrodi er mwyn cael yr amddiffyniad gorau posibl.

|
| Sut i gyrraedd yno: |
|
Mae Sefydliad Lles Glowyr Llai oddeutu 3 milltir i'r gogledd o Wrecsam. |
| I lawrlwytho copi o’r wybodaeth uchod ar gyfer argraffydd, cliciwch ar y ddolen gyswllt ‘lawrlwytho PDF’ isod. |
|
Llwybr Rhif 4 5x30 Wrecsam |
| Math o Ddogfen: Ffeil Acrobat/PDF |
| Maint y Ddogfen: 237k |
| Nodyn: Mae’r ddogfen hon ar ffurf PDF ac mae angen meddalwedd megis Adobe Acrobat Reader i’w gweld. Mae’r rhan fwyaf o gyfrifiaduron eisoes â’r meddalwedd hwn. Os nad ydych yn sicr a oes gennych chi’r meddalwedd hwn ai peidio, agorwch y ffeil uchod. Os medrwch ddarllen y ddogfen, yna mae’r meddalwedd gennych eisoes. Os nad ydych yn medru agor y ddogfen, yna efallai nad yw’r meddalwedd ar eich cyfrifiadur. Os felly, cliciwch ar y ddolen gyswllt isod i fynd i wefan Adobe lle gallwch lawrlwytho copi o Acrobat Reader am ddim. Cael Adobe Acrobat Reader. |