CARTREF
BETH YW 5X30?
DOD O HYD I LWYBR
Ynys Mon
Gwynedd
Conwy
Sir Ddinbych
Sir Y Fflint
Wrecsam
LINCIAU

 

 

LLWYBRAU YN WRECSAM

5. Ruabon

Gweithgaredd:

Beicio

Disgrifiad:

Mae'r llwybr beicio'n dechrau o Ganolfan Chwaraeon a Hamdden Rhiwabon.  Trowch i'r chwith ar hyd Ffordd Pont Adam / Stryd yr Eglwys a dilynwch y ffordd hon ar hyd y bont nes i chi gyrraedd arwydd 'Ildiwch'.  Trowch i'r chwith ar hyd Stryd Fawr Rhiwabon.  Dilynwch y ffordd hon yr holl ffordd trwy'r pentref nes i chi gyrraedd y B5428 Ffordd Bangor.  Dilynwch y ffordd dros y bont reilffordd trwy'r pentref nes i chi gyrraedd Ffordd Llys Newydd.  Dilynwch Ffordd Llys Newydd nes i chi gyrraedd y Stryd Fawr.  O'r Stryd Fawr gallwch ddychwelyd ar hyd y llwybr beicio yn ôl i Stryd yr Eglwys a Phont Adam i gyrraedd y Ganolfan Chwaraeon.

Mae'r llwybr yn mynd ar hyd priffordd felly cofiwch gadw'n ddiogel bob amser wrth feicio ar hyd y llwybr hwn.  Gwisgwch ddillad adlewyrchol a fflwroleuol sy'n addas ar gyfer y tywydd a'r amser er mwyn helpu defnyddwyr eraill y ffordd i'ch gweld.  Gwisgwch helmed feicio bob amser i atal anafiadau i'ch pen.  Dylech amnewid unrhyw helmedi sydd wedi'u difrodi er mwyn cael yr amddiffyniad gorau posibl.

Sut i gyrraedd yno: Mae Rhiwabon 6 milltir i'r de o Wrecsam, oddi ar briffordd yr A483.
I lawrlwytho copi o’r wybodaeth uchod ar gyfer argraffydd, cliciwch ar y ddolen gyswllt ‘lawrlwytho PDF’ isod.

 

 

Dewiswch lwybr 30 munud o’r dolenni cyswllt isod.

Route 1 - Ysgol Llai / Parc Gwledig Alyn Waters Taith Gerdded i Ddechreuwyr
Route 2 - Canol y Dref Wrecsam Loncian
Route 3 - Parc Gwledig Ty Mawr Taith Gerdded (canolradd)
Route 4 - Lles Glowyr Llai Beicio
Route 5 - Ruabon Beicio

 

Amdanom Ni | Polisi Preifatrwydd | © HBS Ltd 2006