"" North Wales Outdoor Challenge ""
Cartref
Beth yw 5x30?
Dod o Hyd I Lwybr
Ynys Mon
Nant y Pandy, Llangefni
Cylchdro Trefol Caergybi
Aberffraw
Moelfre
Parc Arfordirol Penrhos
Gwynedd
Conwy
Sir Ddinbych
Sir Y Fflint
Wrecsam
Linciau

 

 

Llwybrau yn Ynys Mon

Nant y Pandy Llangefni

Lleoliad: Nant y Pandy, Llangefni
Gweithgaredd:

Cerdded

Disgrifiad:  

Mae'r daith gerdded yn cychwyn o'r arwydd her Awyr Agored 5 x 30 y gellir ei weld ar y polyn lamp ar y llaw dde yng nghornel uchaf y maes parcio

Cerddwch o’r maes parcio ar hyd y llwybr ar yr ochr dde. Dilynwch y llwybr  am oddeutu hanner milltir ac yna cymerwch y drydedd allanfa i’r chwith i’r Llwybr Bordiau.

Ewch ymlaen ar hyd y llwybr bordiau nes y dewch at gyffordd. Cymerwch dro i’r dde a fydd yn mynd â chi dros bont bren.

Ewch ymlaen ar hyd y llwybr yma a fydd yn mynd â chi o dan bont reilffordd. Yn unionsyth ar ôl hyn cymerwch dro i’r chwith dros bont bren.

Cymerwch dro i’r dde a fydd yn arwain yn ôl i’r maes parcio.

Mae llwybr bordiau a phontydd traed pren newydd wedi eu hadeiladu, gan roi mynediad anabl llawn i’r teithiau cerdded coedtir a min afon.

Nant y Pandy

 

Sut mae cyrraedd y man cychwyn:

Trowch oddi ar yr A55 tuag at Langefni; dilynwch y system un ffordd o amgylch y dref a throwch i’r chwith tuag at Rhosmeirch. Trowch yn syth i’r chwith wrth Feddygfa Coed y Glyn ar y chwith. Parciwch yn rhan bellaf y maes parcio, ger Eglwys Sant Cyngar.

 

I lawrlwytho copi o’r wybodaeth uchod ar gyfer argraffydd, cliciwch ar y ddolen gyswllt ‘lawrlwytho PDF’ isod.
Iawrlwytho PDF
Llwybr Rhif 1 5x30 Ynys Mon
Math o Ddogfen: Ffeil Acrobat/PDF
Maint y Ddogfen: 183k
Nodyn: Mae’r ddogfen hon ar ffurf PDF ac mae angen meddalwedd megis Adobe Acrobat Reader i’w gweld.  Mae’r rhan fwyaf o gyfrifiaduron eisoes â’r meddalwedd hwn.  Os nad ydych yn sicr a oes gennych chi’r meddalwedd hwn ai peidio, agorwch y ffeil uchod.  Os medrwch ddarllen y ddogfen, yna mae’r meddalwedd gennych eisoes. Os nad ydych yn medru agor y ddogfen, yna efallai nad yw’r meddalwedd ar eich cyfrifiadur. Os felly, cliciwch ar y ddolen gyswllt isod i fynd i wefan Adobe lle gallwch lawrlwytho copi o Acrobat Reader am ddim. Cael Adobe Acrobat Reader.

 

Wrexham County Borough CouncilDenbighshire County CouncilFlintshire County CouncilLlywodraeth Cynulliad CymruHer Iechyd CymruCyngor Chwaraeon CymruCyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Cyngor Gwyneddyngor Sir Ynys Mon
Amdanom Ni | Polisi Preifatrwydd | © HBS Ltd 2006