"" North Wales Outdoor Challenge ""
Cartref
Beth yw 5x30?
Dod o Hyd I Lwybr
Ynys Mon
Nant y Pandy, Llangefni
Cylchdro Trefol Caergybi
Aberffraw
Moelfre
Parc Arfordirol Penrhos
Gwynedd
Conwy
Sir Ddinbych
Sir Y Fflint
Wrecsam
Linciau

 

 

Llwybrau yn Ynys Mon

Cylchdro Trefol Caergybi

Lleoliad: Cylchdro Trefol Caergybi
Gweithgaredd:

Cerdded

Disgrifiad:  

Mae’r daith gerdded yn cychwyn o’r maes parcio gyferbyn â Chwt y Cadetiaid Môr yn ffordd y Prince of Wales.

Croeswch y ffordd a cherddwch i fyny Stryd Newry Fawr, yna trowch i’r dde  i Rodfa Bryngoleu, ac ar y gyffordd nesaf i’r chwith i Rodfa Walthew. Parhewch i fynd ymlaen i Ffordd New Park heibio i’r ysgol ac yna i’r chwith i Resdai Alderley.

Ymhen ychydig  trowch i’r dde i Glos Seriol ac i’r dde eto i Stryd Vulcan.
Ar y chwith mae Canolfan Ucheldre lle cynhelir digwyddiadau ac arddangosfeydd. Os bydd amser ynj caniatáu  gellir prynu gellir prynu paned o de neu goffi adfywiol.

O Stryd Vulcan trowch i’r dde i  Ffordd Carreglwyd  ac yn y pen draw croeswch y ffordd  i Barc Carreglwyd. Ewch i’r chwith o amgylch y llain bytio, wrth y cyrtiau  tennis trowch i’r chwith ac wrth y cylch o gerrig. O’r fan yma

mwynhewch y golygfeydd o harbwr Caergybi a’r môr. Daliwch I fynd ymlaen tuag at y môr.  Wrth adael y parc  croeswch i Ffordd Seabourne ac yn y pen draw ewch i’r dde i lôn gul i Rodfa Walthew. Trowch i’r chwith i’r ynys drafnidiaeth ac i’r dde yn ôl i’r maes parcio.

Caergybi

 

Sut mae cyrraedd y man cychwyn:

Gyda char – o’r A55 ar hyd Ffordd  Victoria ac i’r chwith i Ffordd y Prince of Wales.

Gyda bws cymerwch  21, 22, neu 44 a gadewch y bws ar gyffordd Stryd  Newry a Rhodfa  Bryngoleu.

 

I lawrlwytho copi o’r wybodaeth uchod ar gyfer argraffydd, cliciwch ar y ddolen gyswllt ‘lawrlwytho PDF’ isod.
Iawrlwytho PDF
Llwybr Rhif 2 5x30 Ynys Mon
Math o Ddogfen: Ffeil Acrobat/PDF
Maint y Ddogfen: 190k
Nodyn: Mae’r ddogfen hon ar ffurf PDF ac mae angen meddalwedd megis Adobe Acrobat Reader i’w gweld.  Mae’r rhan fwyaf o gyfrifiaduron eisoes â’r meddalwedd hwn.  Os nad ydych yn sicr a oes gennych chi’r meddalwedd hwn ai peidio, agorwch y ffeil uchod.  Os medrwch ddarllen y ddogfen, yna mae’r meddalwedd gennych eisoes. Os nad ydych yn medru agor y ddogfen, yna efallai nad yw’r meddalwedd ar eich cyfrifiadur. Os felly, cliciwch ar y ddolen gyswllt isod i fynd i wefan Adobe lle gallwch lawrlwytho copi o Acrobat Reader am ddim. Cael Adobe Acrobat Reader.

 

Wrexham County Borough CouncilDenbighshire County CouncilFlintshire County CouncilLlywodraeth Cynulliad CymruHer Iechyd CymruCyngor Chwaraeon CymruCyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Cyngor Gwyneddyngor Sir Ynys Mon
Amdanom Ni | Polisi Preifatrwydd | © HBS Ltd 2006