Taith gerdded fer a hawdd ar hyd yr afon, o amgylch y trwyn ac yn ol drwy gaeau i’r pentref.
O’r maes parcio, wrth yr hen bont, croeswch dros y bont a throwch i’r chwith ar hyd y ffordd ar ochr yr afon.
Dilynwch y llwybr i’r dde ac yna trowch i’r chwith ar hyd llwybr cul wrth ochr y ty.
Cerddwch ar hyd y llwybr gan gymryd gofal oherwydd bod y llwybr yn gul iawn. Os yw’r llanw allan gellir defnyddio’r llwybr isaf.
Parhewch ar hyd yr arfordir, ac yna cymerwch yr ail dro ar y dde i fyny i’r penrhyn.
Trowch i’r dde wrth yr arwyddbost a cherdded i gyfeiriad y sied. Yn union o flaen y sied cymerwch y llwybr ochr dde.
Ewch drwy’r giât mochyn a dilynwch y lôn. Trowch i’r dde wrth y groesffordd gyntaf. Dilynwch y llwybr heibio’r ty ac ymlaen drwy’r giâtiau mochyn yn ôl i’r pentref.
Trowch i’r dde i’r Fron ac yn ôl ar hyd yr afon ir dechrau.

|