"" North Wales Outdoor Challenge ""
Cartref
Beth yw 5x30?
Dod o Hyd I Lwybr
Nant y Pandy, Llangefni
Cylchdro Trefol Caergybi
Aberffraw
Moelfre
Parc Arfordirol Penrhos
Linciau

 

 

Llwybrau yn Ynys Mon

Taith Cerdded Arfordirol Aberffraw

Lleoliad: Pentref Moelfre a Thaith Gerdded Arfordirol
Gweithgaredd:

Cerdded

Disgrifiad:  

Wrth adael y maes parcio, trowch i’r chwith, cerdded pellter byr a throi i’r chwith eto yn yr arosfan bysiau.

Dilynwch y lôn i lawr i’r ffordd ac yna i’r chwith i’r Kinmel Arms, croesi’r ffordd a cherdded i fyny’r allt, a chymryd amser i fwynhau’r bae bach hyfryd hwn.

Ym mhen yr allt trowch i’r dde a dilynwch y llwybr at dy’r bad achub. Cymerwch amser i ddarllen yr wybodaeth yma ac os bydd ar agor, cymerwch olwg ar y bad achub.

Ewch ymlaen ar hyd y llwybr i’r traeth a cherdded ar hyd y traeth am oeddeutu 100 metr, ar y dde yn union oddi ar yr arfordir mae Ynys Moelfre.

Dilynwch y llwybr o amgylch pen y clogwyn ac edrychwch ar yr wybodaeth ynghylch suddo’r Hindlea ym mis Hydref 1959. Ewch ymlaen ar hyd llwybr pen y clogwyn i’r giât ar y chwith, ewch drwy hyn a cherddwch i fyny’r cae i Lôn Trem y Don.

Ar ddiwedd y lôn hon trowch i’r chwith a cherdded y pellter byr i’r ‘Wylfan’. Ewch i mewn ac edrychwch ar y palp o wybodaeth sydd yna am y môr a Moelfre.

Gadewch y ganolfan a cherdded tuag at y môr heibio i gerflun ardderchog y diweddar Dick Evans, Llywiwr Cwch y bad achub am lawer o flynyddoedd. Yma ailymunwch â llwybr yr arfordir ac olrhain eich ffordd yn ôl i’r maes parcio.

Aberffraw

Sut mae cyrraedd y man cychwyn:

Ar y ffordd, A 1025 i gylchfan Llanallgo, ac yna i’r dde i Foelfre. Yn union wedi mynd heibio’r siop slodion trowch i’r chwith ac mewn ychydig lathenni i’r dde i’r maes parcio.

Gyda bws, defnyddiwch y 62 – Bangor Amlwch Bangor (bob hanner awr) neu 51 Llangefni Benllech Moelfre ( dim ond 1 y dydd).

 

I lawrlwytho copi o’r wybodaeth uchod ar gyfer argraffydd, cliciwch ar y ddolen gyswllt ‘lawrlwytho PDF’ isod.
Iawrlwytho PDF
Llwybr Rhif 4 5x30 Ynys Mon
Math o Ddogfen: Ffeil Acrobat/PDF
Maint y Ddogfen: 190k
Nodyn: Mae’r ddogfen hon ar ffurf PDF ac mae angen meddalwedd megis Adobe Acrobat Reader i’w gweld.  Mae’r rhan fwyaf o gyfrifiaduron eisoes â’r meddalwedd hwn.  Os nad ydych yn sicr a oes gennych chi’r meddalwedd hwn ai peidio, agorwch y ffeil uchod.  Os medrwch ddarllen y ddogfen, yna mae’r meddalwedd gennych eisoes. Os nad ydych yn medru agor y ddogfen, yna efallai nad yw’r meddalwedd ar eich cyfrifiadur. Os felly, cliciwch ar y ddolen gyswllt isod i fynd i wefan Adobe lle gallwch lawrlwytho copi o Acrobat Reader am ddim. Cael Adobe Acrobat Reader.

 

Wrexham County Borough CouncilDenbighshire County CouncilFlintshire County CouncilLlywodraeth Cynulliad CymruHer Iechyd CymruCyngor Chwaraeon CymruCyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Cyngor Gwyneddyngor Sir Ynys Mon
Amdanom Ni | Polisi Preifatrwydd | © HBS Ltd 2006