"" North Wales Outdoor Challenge ""
Cartref
Beth yw 5x30?
Dod o Hyd I Lwybr
Nant y Pandy, Llangefni
Cylchdro Trefol Caergybi
Aberffraw
Moelfre
Parc Arfordirol Penrhos
Linciau

 

 

Llwybrau yn Ynys Mon

Taith Cerdded Arfordirol Aberffraw

Lleoliad: Gwarchodfa Natur Penrhos
Gweithgaredd:

Cerdded

Disgrifiad:  

Mae’r parc wedi ei leoli rhwng Caergybi a’r Fali ar ddiwedd y cob ar ochr Caergybi. Mae’r darn hwn o ddŵr yn gwahanu  Ynys Môn ac Ynys Cybi.

Mae’r daith gerdded yn cychwyn o’r prif faes parcio. Gadewch y maes parcio gan fynd heibio’r bloc toiledau ar y chwith, trowch i’r chwith eto wrth y polyn fflag ac yna i’r dde yn y giât nesaf.

Ar gyffordd  mae llawer o feddau anifeiliaid i’w gweld. Trowch i’r chwith yma ac i’r dde yn y gyffordd nesaf. Ewch ymlaen i’r gyffordd nesaf a cherddwch yn syth ymlaen, trowch I’r dde i’r llwybr Arfordirol a dilynwch hwn i fyny at y penrhyn.

Mwynhewch yr olygfa yma o Borthladd Caergybi ac ar yr ochr arall ar hyd yr arfordir cyn belled â Phorth Swtan. Ewch ymlaen ar hyd Llwybr yr Arfordir  ac wedi cyrraedd beddau’r anifeiliaid eto  trowch i’r chwith, trowch i’r chwith yn y giât nesaf, i’r dde wrth y polyn fflag a cherddwch yn ôl i’r maes parcio.

Aberffraw

Sut mae cyrraedd y man cychwyn:

Yn y car – gadewch yr A55 yn y slipffordd  a arwyddir Y Fali. Gyrrwch drwy’r pentref, dros y cob a throwch i’r dde i’r parc. Nodwch – mae’r Maes Parcio wedi ei gyfyngu i uchder cerbydau  o 2 fetr

Bws – 61 o Gaergybi

 

I lawrlwytho copi o’r wybodaeth uchod ar gyfer argraffydd, cliciwch ar y ddolen gyswllt ‘lawrlwytho PDF’ isod.
Iawrlwytho PDF
Llwybr Rhif 5 5x30 Ynys Mon
Math o Ddogfen: Ffeil Acrobat/PDF
Maint y Ddogfen: 190k
Nodyn: Mae’r ddogfen hon ar ffurf PDF ac mae angen meddalwedd megis Adobe Acrobat Reader i’w gweld.  Mae’r rhan fwyaf o gyfrifiaduron eisoes â’r meddalwedd hwn.  Os nad ydych yn sicr a oes gennych chi’r meddalwedd hwn ai peidio, agorwch y ffeil uchod.  Os medrwch ddarllen y ddogfen, yna mae’r meddalwedd gennych eisoes. Os nad ydych yn medru agor y ddogfen, yna efallai nad yw’r meddalwedd ar eich cyfrifiadur. Os felly, cliciwch ar y ddolen gyswllt isod i fynd i wefan Adobe lle gallwch lawrlwytho copi o Acrobat Reader am ddim. Cael Adobe Acrobat Reader.

 

Wrexham County Borough CouncilDenbighshire County CouncilFlintshire County CouncilLlywodraeth Cynulliad CymruHer Iechyd CymruCyngor Chwaraeon CymruCyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Cyngor Gwyneddyngor Sir Ynys Mon
Amdanom Ni | Polisi Preifatrwydd | © HBS Ltd 2006